Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Ein Gwaith
    • Aelodaeth
    • Ein Cyflawniadau
      • Cynrychioli ac Ymgynghori
      • Ymgyrchu a Lobïo
      • Datblygu Polisi ac Ymarfer
      • Codi Ymwybyddiaeth y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol
    • Cynrychiolaeth
    • Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth
    • Gwasanaethau Gwybodaeth
    • Fforymau Plant yng Nghymru
    • Ymgyrchoedd
    • Dylanwadu ar Bolisi
    • Cyfleusterau Cynadleddau a Chyfarfodydd

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Ein Cyflawniadau
Ein Cyflawniadau

Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig - Mae'r adroddiad hwn, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2009, yn tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi incwm isel, neu gartrefi sy'n derbyn budd-daliadau yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu heithrio o wasanaethau sydd ar gael i'w cyfoedion mewn ardaloedd trefol.

Cyhoeddi Tadau mewn Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar: Ymarfer Cadarnhaol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol. Lansiwyd y llyfryn gan Plant yng Nghymru ym mis Hydref 2008 ac mae’n rhoi cyngor i helpu gwasanaethau blynyddoedd cynnar i gynnwys tadau yn eu gwasanaethau.

Croesawu’r FforwmByd 2008 gyda’r Fforwm Rhyngwladol dros Les Plant i Gaerdydd ym mis Medi 2008. Gyda dros 300 o gynrychiolwyr o 30 o wahanol wledydd ar draws y byd yn bresennol, galluogodd y gynhadledd ryngwladol bwysig hon arbenigwyr plant i gyfnewid arfer da ar faterion yn ymwneud ag ymyriad cynnar.

Cyhoeddi Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad mis Ebrill 2008. Roedd yr adroddiad hwn yn ganlyniad ymchwil yn ystyried y problemau sy’n wynebu teuluoedd gwledig a ffyrdd effeithiol o ddarparu gwasanaethau iddynt. Mae’n rhoi sylw i rai o’r materion allweddol sydd yn rhoi teuluoedd yng nghefn gwlad dan anfantais. Mae’r problemau hyn yn cynnwys problemau cael mynediad i drafnidiaeth, diffyg gwasanaethau a chyfleoedd hamdden a diffyg tai fforddiadwy.

Lobïo dros Bwyllgor Craffu Plant - Fe wnaeth Plant yng Nghymru lobïo dros gael pwyllgor craffu plant oherwydd eu bod yn credu ei bod hi’n hanfodol bod yr effaith a gaiff holl bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ar blant a phobl ifanc yn cael ei chraffu os yw’u bywydau i gael eu gwella. Y mae hyn yn cynnwys polisïau na fyddai fel arfer yn cael eu hystyried fel rhai sy’n uniongyrchol berthnasol i blant parthed pynciau megis cludiant, yr amgylchedd a materion cefn gwlad, yn ogystal â’r polisïau hynny sy’n fwy uniongyrchol gysylltiedig, fel gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg. Fe wnaeth Plant yng Nghymru lobïo’n galed am y cyfryw Bwyllgor yn dilyn yr etholiadau i’r trydydd Gynulliad ym mis Mai 2007 ac y maent wedi croesawu’n frwd sefydlu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ym mis Hydref 2007.

Cyhoeddi ‘Cymorth wrth Law’, Hydref 2007 – Fe wnaeth Plant yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac aelodau Cynghrair ‘Sdim Curo Plant! gyhoeddi llyfryn i hyrwyddo dulliau eraill yn lle cosbi corfforol yn hydref 2007. Y mae’r llyfryn, Cymorth wrth Law, ers hynny wedi’i ddosbarthu gan ymwelwyr iechyd a Gwasanaethau Gwybodaeth Plant i bob rhieni newydd yng Nghymru. Y mae’n annog rhieni i ddefnyddio dulliau di-drais i ddisgyblu’u plant ac i annog ymddygiad da.  Fe ellir lawrlwytho’r llyfryn oddi ar ein hadran cyhoeddiadau.

Lansio Cyhoeddiad ‘Cymru Addas ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’, Mai 2007 - Fe wnaeth Plant yng Nghymru lansio ‘Cymru Addas ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’ ym mis Mai 2007.  Yr oedd y ddogfen yn herio gwleidyddion i roi sylw i’r materion cyffredinol y mae’n haelodau’n credu sydd angen sylw, er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.  Fe wnaeth y lansio gyd-daro â’r trydydd etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Y mae mwy o wybodaeth ar gael yn adran polisi’r wefan hon.

Galluogi Gofalwyr Ieuainc i gael cyfle blynyddol i amlygu’u pryderon wrth y Gweinidog.  Y mae Plant yng Nghymru’n cydlynu’r Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc, a thrwy’r gwaith hwn y maent wedi sicrhau bod gan ofalwyr ieuainc gyfle blynyddol i amlygu materion o bryder wrth y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Y mae mwy o wybodaeth am ein gwaith gyda gofalwyr ieuainc ar gael yn yr adran Gofalwyr Ieuainc.

Mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gan y llywodraeth a sefydliadau eraill - Mae Plant yng Nghymru yn gweithio i sicrhau fod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn dod yn realaeth yng Nghymru, ac mae’r gwaith i godi ymwybyddiaeth amdano ymysg sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau eraill yn parhau. Cafodd y Confensiwn ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi sylfaen egwyddor ar gyfer trafodion gyda phlant mewn dadl mewn sesiwn lawn ar 14 Ionawr 2004. Mae gwybodaeth bellach am y Confensiwn ar gael o adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar y safle hwn.

Deddf Plant 2004 - Roedd Plant yng Nghymru yn weithgar iawn pan aeth y Mesur drwy’r Senedd. Buom yn briffio Aelodau Seneddol ac Arglwyddi Gymru ar ein gwelliannau am chwarae, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ymestyn pwerau’r Comisiynydd Plant yng Nghymru i feysydd heb eu datganoli, YOTS a gwahardd cosb gorfforol plant.  Mae gwybodaeth bellach a briffiad ar y dudalen Deddf Plant ar ein gwefan.

Strategaeth Tlodi Plant – roeddem yn ymwneud â’r ymgyrch i sefydlu  Strategaeth Tlodi Plant gan Llywodraeth Cynulliad Cymru a chydlynwn Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yng Nghymru.  Mae gwybodaeth bellach ar hyn ar dudalen Rhwydwaith Atal Tlodi Plant y safle hwn.

Cynllun Gweithredu Rhianta – Cyhoeddodd Plant yng Nghymru "Magu Plant yn Hyderus" yn 2004 yn gosod gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaethau a strwythurau newydd i gefnogi rhieni yn y dasg o fagu plant yng Nghymru. Arweiniodd hyn at weithgor gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gyd-gadeirir gan Plant yng Nghymru, a gynhyrchodd y "Cynllun Gweithredu Rhianta". Mae’r Cynllun yn amlinellu nifer o dargedau a chamau gweithredu ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Comisiynydd Plant Cymru - Roedd Plant yng Nghymru yn weithgar yn cydlynu’r ymgyrch dros gael Comisiynydd Plant i Gymru. Yn dilyn yr ymgyrch hon, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol i benodi Comisiynydd Plant. Mae gwybodaeth bellach am yr ymgyrch a gwaith y Comisiynydd ar dudalen y Comisiynydd Plant.

Hawliau Anabledd - Roedd Plant yng Nghymru yn bartner pwysig wrth gynllunio a chyflwyno Gweithredu Hawliau 2003, Cyngres Ryngwladol Gyntaf Pobl Ifanc Anabl. Daeth y digwyddiad â 95 o bobl ifanc anabl ynghyd fel cynrychiolwyr o fwy na 35 o wahanol wledydd i ddysgu am eu hawliau fel y’u coleddir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’r Model Cymdeithasol o Anabledd. Arweiniodd hyn at sefydluRhwydwaith Pobl Ifanc Anabl Cymru. Gwybodaeth bellach ar dudalennau perthnasol ein safle.

Fframwaith Strategol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc – Mae’r Cynulliad wedi llunio strategaeth "Fframwaith ar gyfer Partneriaeth" i gydlynu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc ym mhob ardal awdurdod lleol. Mae gwybodaeth bellach am y Fframweithiau Partneriaethau a gyflwynwyd drwy’r strategaeth ar gael ar dudalen Fframweithiau ar gyfer Partneriaethau o’r wefan hon.

Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, y Ddraig Ffynci - Ymgyrchodd Plant yng Nghymru dros ymgyfraniad plant a phobl ifanc yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y mae gan Gynulliad y plant a phobl ifanc yn awr wefan, sef y "Ddraig Ffynci", sy’n llais dros blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r wefan yn cynnwys fforymau ar-lein ble medrir trafod materion a diddordebau cyfredol a chyfnewid barn. Gall pobl ifanc hefyd bleidleisio a gadael i Gynulliad Cymru glywed eu barn.

Hawliau Plant - Hyrwyddo eiriolaeth a chyfnewid ymarfer hawliau plant. Mae Plant yng Nghymru yn gweithio yn barhaol i hyrwyddo adfocatiaeth a chyfnewid ymarfer hawliau plant. Mae gwybodaeth bellach am y gwaith hwn ar dudalen grwp Cyfnewid Ymarfer Hawliau Plant y safle hwn.

Hyfforddiant ar Hawliau Plant - Mae Plant yng Nghymru wedi datblygu amrediad o gyrsiau sydd â ffocws ar Hawliau Plant a safbwyntiau amddiffyn plant. Cyflwynwyd cyrsiau i weithwyr cymdeithasol a’u rheolwyr, gweithwyr proffesiynol iechyd, grwpiau staff aml-asiantaeth a gofalwyr maeth. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar dudalen Hyfforddiant ein gwefan.

Mynediad i Wiriadau’r Heddlu ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol yng Nghymru - Mae gwaith lobïo gan Plant yng Nghymru wedi cynorthwyo i sicrhau bod yr holl fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn cael mynediad i wiriadau’r heddlu ac y sefydlwyd Uned Cofnodion troseddol yng Nghymru. Clicier yma i gael gwybodaeth bellach ar yr Uned Cofnodion Troseddol.

Gweinidog dros Blant yng Nghymru - Roedd Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â lobïo dros gael Gweinidog dros Blant yng Nghymru. Fe gafodd y Gweinidog cyntaf dros Blant yn y Swyddfa Gymreig, Win Griffiths, ei benodi yn 1997. Y Gweinidog presennol dros Blant yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Jane Hutt, Trefnydd Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyllid y Swyddfa Gymreig ar gyfer prosiectau Eiriolaeth ledled Cymru – Bu Plant yng Nghymru yn ymgyrchu i ddwyn pwysau ar y Swyddfa Gymreig i sicrhau bod arian yn cael ei ddarparu ar gyfer prosiectau Eiriolaeth ledled Cymru.

Cefnogaeth i Dystion yn ystod Tribiwnlys Gogledd Cymru – Fe wnaeth ymgyrchu gan Plant yng Nghymru gynorthwyo i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i dystion yn Nhribiwnlys Waterhouse, a oedd yn ymchwilio i Gamdriniaeth Plant ymysg plant o dan ofal yn ardaloedd hen gynghorau sir Gwynedd a Chlwyd.

Cynlluniau ar gyfer Gwasanaethau Plant – Fe fu Plant yng Nghymru yn llwyddiannus yn eu hymgyrch dros gynllunio integredig ar gyfer plant. Mae pob awdurdod lleol yn awr yn gorfod cyhoeddi cynllun blynyddol, sef Cynllun ar gyfer Gwasanaethau Plant, ynglyn â chyflwr eu gwasanaethau ar gyfer plant a’u hamcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Hyrwyddo arferion da mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar – Mae gwybodaeth am waith Plant yng Nghymru i hyrwyddo arferion da mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar ar gael ar y dudalen Blynyddoedd Cynnar o’r wefan hon.

Diddymu cosb gorfforol plant gan ofalwyr plant – Bu Plant yng Nghymru yn weithgar yn ymgyrch ‘Sdim Curo Plant i ddod â chosb gorfforol plant i ben. Bu’r ymgyrch yn llwyddiannus wrth ennill cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac wrth sicrhau cyflwyno deddfwriaeth yn gwahardd gwarchodwyr plant rhag taro plant dan 8 yng Nghymru. Mae gwybodaeth bellach am ymgyrch ‘Sdim Curo Plant a’r Fforwm Magu Plant ar gael ar dudalennau perthnasol y safle hwn.

Cynrychioli ac Ymgynghori
Mae Plant yng Nghymru yn amlygu pryderon ein haelodau, ac mae’n hwyluso’r gwaith o ddatblygu agenda plant a phobl ifanc yng Nghymru drwy gynrychiolaeth ar amryw o grwpiau a thrwy ymateb i ystod eang o ymgynghoriadau.
Ymgyrchu a Lobïo
Mae Plant yng Nghymru yn ymladd yn ddiflino am wasanaethau o ansawdd sy’n gynaliadwy a chyfrannau teg i bob plentyn a pherson ifanc.
Datblygu Polisi ac Ymarfer
Mae llawer o waith Plant yng Nghymru yn golygu hyrwyddo datblygu polisi ac ymarfer. ‘Rydym yn cynnal sbectrwm cyfan o weithgareddau yn hyrwyddo datblygu polisi ac arfer ledled ystod o feysydd.
Codi Ymwybyddiaeth y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol
Mae Plant yng Nghymru’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o’r problemau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a ffyrdd y gellir gwella’u bywydau, fel ei gilydd.
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Ein Cyflawniadau

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence