Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Aelodaeth
  • Ein Cyflawniadau
    • Cynrychioli ac Ymgynghori
    • Ymgyrchu a Lobïo
    • Datblygu Polisi ac Ymarfer
    • Codi Ymwybyddiaeth y Cyhoedd a Gweithwyr Proffesiynol
  • Cynrychiolaeth
  • Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Fforymau Plant yng Nghymru
  • Ymgyrchoedd
  • Dylanwadu ar Bolisi
  • Cyfleusterau Cynadleddau a Chyfarfodydd

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Ymgyrchu a Lobïo
Ymgyrchu a Lobïo

Mae Plant yng Nghymru yn ymladd yn ddiflino am wasanaethau o ansawdd sy’n gynaliadwy a chyfrannau teg i bob plentyn a pherson ifanc.

  • Lobïo am Bwyllgor Craffu Plant - Fe wnaeth Plant yng Nghymru lobïo am bwyllgor craffu i blant oherwydd eu bod yn credu ei bod hi’n hanfodol y craffir ar effaith holl bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ynghylch plant a phobl ifanc os yw’u bywydau i gael eu gwella.  Mae hyn yn cynnwys polisïau na fyddent efallai fel arfer yn cael eu hystyried fel rhai sy’n uniongyrchol berthnasol i blant o ran pynciau, megis trafnidiaeth, yr amgylchedd a materion cefn gwlad, yn ogystal â’r rhai hynny sy’n fwy uniongyrchol gysylltiedig fel gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg.  Fe wnaeth Plant yng Nghymru lobïo’n galed am y cyfryw Bwyllgor ar ôl yr etholiadau i’r trydydd Gynulliad ym mis Mai, 2007, ac fe wnaethant groesawu’n ddiffuant sefydlu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ym mis Hydref, 2007.
  • Galluogi Gofalwyr Ifainc i gael cyfle blynyddol i amlygu’u pryderon wrth y Gweinidog.  Plant yng Nghymru sy’n cydlynu’r Rhwydwaith Gofalwyr Ifainc, a thrwy’r gwaith hwn maent wedi sicrhau bod gofalwyr ifainc yn cael y cyfle blynyddol i amlygu materion sydd o bryder i’r Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae mwy o wybodaeth am ein gwaith gyda gofalwyr ifainc ar gael yn yr adran Gofalwyr Ifainc.
  • Mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn gan y llywodraeth a sefydliadau eraill – Mae Plant yng Nghymru yn gweithio i sicrhau bod yr CCUHP yn dod yn realiti yng Nghymru, ac mae gwaith i godi ymwybyddiaeth ohono ymysg y llywodraeth a sefydliadau eraill yn parhau.  Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru fabwysiadu’n ffurfiol Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i ddarparu sylfaen o egwyddor ar gyfer ymdrin â phlant mewn dadl cyfarfod llawn ar y 14eg o Ionawr, 2004.
    Fe ellir cael mwy o wybodaeth am yr CCUHP oddi ar adran CCUHP y wefan hon.                                            
  • Deddf Plant 2004 - ‘Roedd Plant yng Nghymru yn weithredol iawn yn ystod taith y Mesur drwy’r Senedd.  Fe wnaethom gyfarwyddo ASau ac arglwyddi ynglŷn â’n gwelliannau ynglŷn â chwarae, yr CCUHP, ynglŷn ag ymestyn pwerau’r Comisiynydd Plant i feysydd nad ydynt wedi’u datganoli, Timau Troseddau Ieuenctid a diddymu cosbi plant yn gorfforol.  Mae mwy o wybodaeth a chyfarwyddiad ar y dudalen Deddf Plant o’n gwefan.
  • Strategaeth Tlodi Plant – ‘Roedd Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â’r ymgyrch i sefydlu Strategaeth Tlodi Plant Cymru o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru.  ‘Rydym hefyd yn cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru.  Fe ellir canfod mwy o wybodaeth am hyn ar dudalen Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant y wefan hon.  
  • Y Cynllun Gweithredu Rhianta – Fe gyhoeddodd Plant yng Nghymru "Magu Plant yn Hyderus" yn 2004, yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer creu gwasanaethau a strwythurau newydd i gymorth rhieni yn y gorchwyl o fagu plant yng Nghymru.  Fe wnaeth hyn arwain at weithgor gan y Lywodraeth Cynulliad Cymru, a gadeiriwyd ar y cyd gan Plant yng Nghymru, a gynhyrchodd "Y Cynllun Gweithredu Rhianta".  Mae’r Cynllun yn amlinellu amryw o amcanion a gweithredoedd ar gyfer y tair blynedd nesaf.                                                                                
  • Comisiynydd Plant yng Nghymru – ‘Roedd Plant yng Nghymru yn weithredol gyda chydlynu’r ymgyrch ar gyfer Comisiynydd Plant i Gymru.  Fe ddaeth Cymru ar ôl hynny yn genedl gyntaf y Deyrnas Unedig i benodi Comisiynydd Plant.  Mae mwy o fanylion am yr ymgyrch ac am waith y Comisiynydd ar gael ar wefan y Comisiynydd Plant.
  • Cynulliad i blant a phobl ifanc, "Draig Ffynci" – Fe wnaeth Plant yng Nghymru ymgyrchu dros gynnwys plant a phobl ifanc yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.  Mae gan y Cynulliad plant a phobl ifanc yn awr wefan, sef "Draig Ffynci", sy’n llais i blant a phobl ifanc yng Nghymru.  Mae’r wefan yn cynnwys fforymau ar-lein ble y gall materion a diddordebau cyfredol gael eu trafod a barn gael ei chyfnewid.  Fe all pobl ifanc hefyd bleidleisio a gadael i Gynulliad Cymru glywed eu barn.                                                                          
  • Mynediad i Wiriadau’r Heddlu ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol yng Nghymru – Fe wnaeth lobïo gan Plant yng Nghymru gynorthwyo i sicrhau bod gan yr holl fudiadau gwirfoddol yng Nghymru fynediad i wiriadau’r heddlu a bod yna Uned Cofnodion Troseddol wedi’i sefydlu yng Nghymru.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr Uned Cofnodion Troseddol.
  • Gweinidog dros Blant yng Nghymru - ‘Roedd Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â lobïo am Weinidog dros Blant yng Nghymru.  Fe benodwyd y Gweinidog cyntaf dros Blant yn y Swyddfa Gymreig, Win Griffiths, yn 1997.  Y Gweinidog cyfredol dros Blant yn Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Jane Hutt.                                                         
  • Cyllid y Llywodraeth ar brosiectau Eiriolaeth ledled Cymru – ‘Roedd Plant yng Nghymru yn gysylltiedig ag ymgyrchu i sicrhau bod cyllid wedi’i ddarparu gan y Cynulliad ar gyfer prosiectau Eiriolaeth ledled Cymru.   
  • Cefnogaeth i Dystion yn ystod Tribiwnlys Gogledd Cymru - Fe wnaeth ymgyrchu gan Plant yng Nghymru gynorthwyo i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i dystion yn Nhribiwnlys Waterhouse, a ymchwiliodd i Gam-drin Plant ymysg plant dan ofal yn ardaloedd hen gynghorau sir Gwynedd a Chlwyd.                                                                             
  • Cynlluniau Gwasanaethau Plant - Fe wnaeth Plant yng Nghymru ymgyrchu’n llwyddiannus dros gynllunio integredig ar gyfer plant.  Mae’n rhaid i bob un awdurdod lleol gyhoeddi cynllun blynyddol, Cynllun Gwasanaethau Plant ynglŷn â chyflwr eu gwasanaethau ar gyfer plant a’u hamcanion am y flwyddyn sydd i ddod.             
  • Diddymu cosbi plant yn gorfforol gan warchodwyr plant - Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn weithredol yn yr Ymgyrch ‘Sdim Curo Plant! i ddileu cosbi plant yn gorfforol.  Mae’r ymgyrch wedi bod yn llwyddiannus yn ennill cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyda sicrhau bod deddfwriaeth yn gwahardd gwarchodwyr plant rhag taro plant o dan 8 oed yn eu gofal wedi'i chyflwyno yng Nghymru.  Mae mwy o wybodaeth am yr Ymgyrch Sdim Curo Plant!, a Fforwm Magu Plant o eiddo Plant yng Nghymru ar gael ar dudalennau perthnasol y wefan hon. 
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Ymgyrchu a Lobïo

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence