Mae Plant yng Nghymru’n gweithio’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol o’r problemau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a ffyrdd y gellir gwella’u bywydau, fel ei gilydd. ‘Rydym yn gwneud hyn mewn ystod o ffyrdd.
Cynadleddau, Seminarau a Gweithdai
Mae Plant yng Nghymru yn trefnu ystod o gynadleddau, seminarau a gweithdai. Mae’r rhain yn cynnwys ein Cynadleddau Blynyddol sy’n cyfarparu llunwyr polisi ac ymarferwyr ledled yr holl ddisgyblaethau yn y sector plant a phobl ifanc yng Nghymru gyda’r wybodaeth hanfodol ddiweddaraf a wna gymorth eu gwaith. ‘Rydym hefyd wedi cyd-gynnal digwyddiadau ar lefel ryngwladol, yn nodedig:
Hyfforddiant
Mae Plant yng Nghymru yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi amlddisgyblaethol, sy’n hyrwyddo ymagweddiad integredig ar gyfer pawb sy’n gweithio yn y sectorau statudol, gwirfoddol ac annibynnol. Mae’r cyrsiau’n gwneud defnydd o’r adnoddau sydd gan ein tîm o staff arbenigol ni’n hunain a rhwydwaith cenedlaethol o unigolion a sefydliadau arbenigol, i gyflenwi hyfforddiant o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae’n rhaglen hyfforddi yn parhau i dyfu.