Y mae Plant yng Nghymru yn gorff aelodaeth ac y mae’n agored i unigolion a sefydliadau o ystod eang o feysydd gydag amrywiol ddiddordebau, ond y mae ganddynt i gyd ddiddordeb mewn gwella bywydau plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Pe byddech yn penderfynu ymuno â ni, fe allech ddod yn rhan o’r rhwydweithiau mwyaf o weithwyr proffesiynol yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn plant a phobl ifanc a’u teuluoedd. Fel aelod, fe allwch ddisgwyl elwa oddi wrth ein harbenigedd mewn datblygu polisi, gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, a chyfathrebu gyda rhwydweithiau amlasiantaethol yn y sectorau statudol a gwirfoddol.
Fe ddaw ein 200 o aelodau presennol o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phreifat, ac y maent yn cynnwys Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Iechyd, Cyrff Gwirfoddol, Prifysgolion, Ysgolion, Meithrinfeydd, Canolfannau Teuluoedd a Chyfreithwyr.
Y mae mwy o wybodaeth ar gael yn yr adran Amdanom Ni