Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Ein Gwaith
    • Aelodaeth
    • Ein Cyflawniadau
    • Cynrychiolaeth
    • Hyfforddiant ac Ymgynghoriaeth
    • Gwasanaethau Gwybodaeth
    • Fforymau Plant yng Nghymru
    • Ymgyrchoedd
    • Dylanwadu ar Bolisi
    • Cyfleusterau Cynadleddau a Chyfarfodydd

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Dylanwadu ar Bolisi
Dylanwadu ar Bolisi

Mae Plant yng Nghymru yn cynnal ystod o waith i ddylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiad polisïau.

Fforymau a rhwydweithiau - Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso ystod eang o wydweithiau proffesiynol sy’n dod ag aelodau ynghyd i drafod materion polisi ac ymarfer. Maent yn hanfodol i’n gwaith gan eu bod yn ein cynorthwyo ni i ddeall y materion sydd o bryder i ystod o sefydliadau ledled y sector plant. Drwy’r  rhwydweithiau hyn, fe allwn hysbysu aelodau o ddatblygiadau newydd, rhannu ymarfer da a datblygu safbwyntiau priodol yn ymwneud â datblygiadau polisi.

Ymgyrchoedd - Mae Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â chydlynu amryw o ymgyrchoedd penodol ar faterion sydd o bryder i’r sector gwirfoddol. Mae’r rhain yn cynnwys ‘Sdim Curo Plant!/Children are Unbeatable!Cymru, sy’n lobïo yng Nghymru i newid y gyfraith fel bod gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag sydd gan oedolion, a Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sy’n glymblaid o sefydliadau sy’n pryderu am dlodi ymysg plant.

Ymgynghoriadau ac Ymchwiliadau - Un o brif swyddogaethau Plant yng Nghymru yw trosglwyddo barn ei aelodau i lunwyr polisi. ‘Rydym yn ymateb i ystod eang o ymgynghoriadau ac yn darparu tystiolaeth i amrywiol bwyllgorau ac ymchwiliadau o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru. I wneud hyn, ‘rydym yn cysylltu gyda’n haelodau, fforymau a rhwydweithiau i sicrhau bod ein hymatebion i ymgynghoriadau yn amlygu’r holl faterion perthnasol ar gyfer y sawl sy’n gweithio yn y maes.

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector- Mae Plant yng Nghymru yn cynrychioli sector gwirfoddol y plant ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Mae hyn yn golygu mynd â barn y sawl sy’n gweithio yn sector gwirfoddol y plant i gyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac i gyfarfodydd a drefnwyd gyda Gweinidogion unigol.

Grwpiau Trawsbleidiol – Mae Plant yng Nghymru yn gwasanaethu’r Grŵp Trawsbleidiol ar Blant yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar gyfer Plant yng Nghymru yn San Steffan. Mae’r grwpiau hyn yn galluogi Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol Cymreig, yn ôl eu trefn i ddod ynghyd yn rheolaidd i drafod materion o bryder i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Grwp Seneddol yr Holl Bleidiau ar gyfer Plant yng Nghymru
Mae Grwp Seneddol Oll-bleidiol ar gyfer Plant yng Nghymru yn Grwp Seneddol Ollbleidiol swyddogol ar gyfer Aelodau Seneddol ac Arglwyddi.
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Dylanwadu ar Bolisi

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence