Crynodeb o gynnydd ynglŷn ag Adrodd ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru
Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig lofnodi Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn 1991, ac y mae’n rhaid iddi gyflwyno adroddiad ar gyfnodau rheolaidd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ynglŷn â sut y mae’r Confensiwn yn cael ei weithredu yn y Deyrnas Unedig.
Fel rhan o’r broses adrodd amgen i’r Pwyllgor Monitro, fe gyhoeddwyd Aros, Edrych, Gwrando: sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru ym mis Tachwedd 2007 gan Grŵp Monitro CCUHP, sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau y cydgysylltir mewn modd effeithiol y gwaith o gadw golwg ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Y mae Plant yng Nghymru yn aelod gweithredol o’r grŵp hwn.
Fe ddatgelodd yr adroddiad fod Cymru wedi gwneud cynnydd arwyddocaol ar hawliau plant ond bod angen gwneud mwy. (Ym mis Mawrth 2009, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Dilyn y Ffordd at Hawliau, fel ymateb i’r adroddiad.)
Fe gyflwynwyd Aros, Edrych, Gwrando yn 2008 i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ar gyfer eu harchwiliad cyfnodol o’r Wladwriaeth Brydeinig, ynghyd â’r adroddiadau canlynol:
Yn dilyn ystyriaeth o’r dystiolaeth a gyflwynwyd, a Gwrandawiad Llafar yn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa, fe gyhoeddwyd arsylwadau casgliadol y Pwyllgor ym mis Hydref 2008. Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awr yn gweithio gyda chyrff anllywodraethol, plant a phobl ifanc a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd yn seiliedig ar yr arsylwadau casgliadol hyn.
Ym mis Mawrth 2009, fe gynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Grŵp Monitro CCUHP Cymru gynhadledd ar fwrw ymlaen â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru, o’r enw "CCUHP - Gwneud pethau’n iawn!" Fe ddisgwylir adroddiad cynhadledd yn go fuan.
Y mae’n rhaid i’r Deyrnas Unedig gyflwyno’u pumed adroddiad cyfnodol erbyn 14 Ionawr 2014.