Y mae Erthygl 5 Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ymwneud â pharchu hawl a chyfrifoldebau rhieni a theuluoedd i gyfarwyddo ac i arwain plant:
Dylai llywodraethau barchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant fel eu bod, wrth dyfu, yn dysgu sut i ddefnyddio’u hawliau’n briodol
* Y mae’r testun hwn yn dod o fersiwn gryno o’r Cytundeb yn unig. Nid yw testun llawn y Cytundeb wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg. Fodd bynnag, y mae cyfieithiad Saesneg yr erthygl hon fel a ganlyn:
"States Parties shall respect the responsibilities, rights and duties of parents or, where applicable, the members of the extended family or community as provided for by local custom, legal guardians or other persons legally responsible for the child, to provide, in a manner consistent with the evolving capacities of the child, appropriate direction and guidance in the exercise by the child of the rights recognized in the present Convention."
Gwaith Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â’r Erthygl honY mae gwybodaeth am y gwaith a wneir gan Plant yng Nghymru yn gysylltiedig â’r Erthygl hon ar gael yn Adran Magu Plant y wefan hon.
Gwybodaeth arall am sut y gweithredir yr Erthygl hon yng Nghymru
Polisi
Y mae Adran Polisi’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth am ymgynghoriadau, dogfennau eraill a deddfwriaeth yn gysylltiedig â Theuluoedd a Magu Plant. Fe ellir cael at yr wybodaeth hon o’r dudalen Polisi drwy ddewis y maes pynciau perthnasol o’r ddewislen ar yr ochr dde a phori drwy’r gwahanol fathau o wybodaeth am bolisi.
Dolenni Cyswllt
Y mae’r adran dolenni cyswllt yn cynnwys dolenni cyswllt yn ymwneud â Theuluoedd a Magu Plant. Ymwelwch â’r adran Dolenni Cyswllt a dewiswch y maes pynciau perthnasol i gael golwg ar yr wybodaeth hon.