Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • »Confensiwn y CU
    Erthyglau 1- 10
    Erthyglau 11 - 20
    Erthyglau 21 - 30
    Erthyglau 31 - 42
    Cadw Golwg ar y Confensiwn

Yr ydych yn : Confensiwn y CU
Confensiwn y CU

UNCRCCroeso i adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o eiddo gwefan Plant yng Nghymru. Un o amcanion Plant yng Nghymru yw sicrhau bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yn dod yn realiti yng Nghymru, ac y mae adran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig o’r wefan hon yn darparu manylion pob Erthygl o’r Confensiwn.

Darllenwch Erthyglau’r Confensiwn:-

Erthyglau 1- 10
Erthyglau 11 - 20
Erthyglau 21 - 30
Erthyglau 31 – 42

Ynglyn â’r Confensiwn

Fe luniwyd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) gan wledydd sy’n aelodau o’r Cenhedloedd Unedig ym mis Tachwedd, 1989, ac fe’i cadarnhawyd gan y Deyrnas Gyfunol ym mis Rhagfyr, 1991. Y mae’n cynnwys 54 o erthyglau, 41 yn ymwneud â hawliau plant a 13 yn ymwneud â’i weithredu, a’r bwriad yw sicrhau bod hawliau hollgyffredinol plant yn cael eu cynnal ledled y byd. Wrth gadarnhau’r cytundeb, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol nodi amheuon wrth y Confensiwn, sy’n dal mewn grym hyd y dydd heddiw. Y mae’r rhain yn cynnwys amheuon parthed yr erthyglau yn ymwneud â chyfiawnder i ieuenctid (Erthygl 37) a llochesu a mewnfudo (Erthygl 22). Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol dileu eu amheuaeth ar yr erthygl i wneud a llochesu a mewnfuo yn 2008. Fe ddaeth y Confensiwn i rym yn y Deyrnas Gyfunol ym mis Ionawr, 1992.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru

Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dderbyn yn ffurfiol Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i ddarparu sylfaen egwyddor ar gyfer ymdrin â phlant mewn dadl mewn Cyfarfod Llawn ar y 14eg o Ionawr, 2004.

Cadw Golwg ar y Confensiwn

Y mae llywodraethau yn adrodd ynglyn â sut y maent yn gweithredu’r Confensiwn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn bob pum mlynedd. Fe adroddodd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn 1994 , 1999 a 2007. Yn dilyn adroddiadau’r llywodraeth, y mae’r corff rhyngwladol sy’n cadw golwg ar y cytundeb ar ran y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cyhoeddi’i adroddiadau’i hun ar gynnydd pob Llywodraeth. Fe gafodd adroddiadau ar gynnydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol eu cyhoeddi yn 1995 , 2002 a 2008.

Yn ychwanegol at yr adroddiadau a wnaed gan lywodraethau, y mae cyrff anllywodraethol (NGOs) hefyd yn llunio adroddiadau i ddangos sut y maent yn credu y mae’r Confensiwn wedi’i weithredu yn eu gwlad. Fe wnaeth Achub y Plant a Plant yng Nghymru weithio gyda’i gilydd i gasglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad gan y corff anllywodraethol ynglyn â gweithredu’r Confensiwn yng Nghymru, a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn 2002.   Fe gynrychiolir Plant yng Nghymru ar Grwp Monitro UNCRC sy’n gweithio gyda’i gilydd i sicrhau bod yna gydlynu effeithiol ar y modd y cedwir golwg ar Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Y mae mwy o wybodaeth am hyn ar gael ar  dudalen Cadw Golwg ar y Confensiwn yng Nghymru ac dudalen Cynrychiolaeth Hawliau Plant y wefan hon.

Cyfieithiad Cymraeg o'r Confensiwn

Fe wnaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru dderbyn yn ffurfiol Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i ddarparu sylfaen egwyddor ar gyfer ymdrin â phlant mewn dadl mewn Cyfarfod Llawn ar y 14eg o Ionawr, 2004.

Sut i Ganfod Mwy o Wybodaeth

Y mae mwy o wybodaeth am ein holl waith yn gysylltiedig â Hawliau Plant ar gael yn y tudalennau Hawliau Plant o adran Meysydd Gwaith y wefan hon, ac y mae manylion ynglyn â hyfforddiant a ddarperir gan Plant yng Nghymru parthed Hawliau Plant ar gael yn yr adran Hyfforddiant. 

Y mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu cyfres o gyfarwyddiadau sy’n darparu gwybodaeth ychwanegol am yr UNCRC a’r broses o gadw golwg.  Fe ellir llwytho’r rhain oddi ar ein tudalen Cyhoeddiadau i’w Llwytho.

Y mae dolenni cyswllt i ragor o wefannau yn gysylltiedig â Hawliau Plant ar gael yn ein hadran Dolenni Cyswllt.

Erthyglau 1- 10
Erthyglau 11 - 20
Erthyglau 21 - 30
Erthyglau 31 - 42
Cadw Golwg ar y Confensiwn
Dolenni Cysylltiol
Tudalennau gwefan Magic ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
Y mae’r wefan hon yn ymateb ar ran Cronfa Blant y Cenhedloedd Unedig (UNICEF) i Her Oslo yn 1999, a alwodd ar weithwyr proffesiynol y cyfryngau, addysgwyr, llywodraethau, mudiadau, rhieni, plant a phobl ifanc eu hunain i gydnabod potensial aruthrol y cyfryngau i wneud y byd yn well lle ar gyfer plant.
Swyddfa’r Uchel Gomisiynwyr dros Iawnderau Dynol - Office of the High Commissioners for Human Rights
Gwybodaeth ynglyn Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan gynnwys sesiynau’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn, statws cadarnhau a datganiadau ac amheuon.
Rhwydwaith Gwybodaeth am Hawliau Plant - Children’s Rights Information Netowrk
Sy’n cynnwys cyfeiriadau at gannoedd o adroddiadau, newyddion a digwyddiadau, yn ogystal â manylion am fudiadau sy’n gweithio ledled y byd dros blant.
Adnoddau Cysylltiol
:'Cywiro'r cam: reality hawliau plant yng Nghymru'
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313