Darllenwch y telerau a’r amodau a ganlyn yn ofalus, os gwelwch yn dda, gan eu bod yn rheoli’r defnydd o’r wefan hon (www.childreninwales.org.uk):
1) Eich defnydd o’r wefan hon
Y mae’ch defnydd o’r wefan hon yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn, sy’n dod i rym ar ddiwrnod cyntaf y defnyddir y wefan. Yr ydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan hon er dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw’n amharu ar hawliau, nac yn cyfyngu ar, nac yn atal y defnydd a’r mwynhad o’r wefan hon gan unrhyw drydydd parti. Y mae’r cyfryw gyfyngu ac atal yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon neu a all aflonyddu ar neu beri trallod neu anhwylustod i unrhyw berson, trosglwyddo deunydd anllad neu dramgwyddus neu darfu ar lif normal deialog o fewn y wefan hon.
2) Addasu’r telerau a’r amodau
Y mae Plant yng Nghymru yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau drwy bostio’r newidiadau ar-lein. Y mae parhau â’ch defnydd o’r wefan ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb hwn fel y’i addaswyd.
3) Hawlfreintiau
Plant yng Nghymru sy’n berchen ar hawlfraint y deunydd (gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, logos, lluniau, a gwedd gyffredinol y wefan). Fe waherddir defnyddio neu gyhoeddi mewn modd masnachol y deunydd, gan gynnwys atgynhyrchu, storio, addasu, dosbarthu neu gyhoeddi heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol Plant yng Nghymru neu, ble y bo’n gymwys, y perchennog (perchenogion) ar yr hawlfraint sy’n briodol, ac eithrio ar gyfer eich defnydd personol neu anfasnachol eich hun.
4) Cysylltiadau â gwefannau eraill
Nid yw Plant yng Nghymru yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau trydydd parti cysylltiedig, naill ai i neu oddi wrth wefan Plant yng Nghymru, ac nid ydynt o angenrheidrwydd yn cefnogi’r safbwyntiau a fynegir ynddynt. Fe ddylai unrhyw wefan sy’n dymuno creu cysylltiad i wefan Plant yng Nghymru, neu sy’n gofyn am gael creu cysylltiad iddi, gysylltu â’r gwasanaeth gwybodaeth.
5) Cyfyngiad ar atebolrwydd
Nid yw Plant yng Nghymru yn derbyn eu bod yn atebol am unrhyw ddifrod, gan gynnwys, heb gyfyngiad, difrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, colli elw, neu unrhyw ddifrod pa beth bynnag sy’n deillio, neu mewn cysylltiad â’r defnydd neu golli’r defnydd, o’r wefan hon. Nid yw Plant yng Nghymru yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd yn y wefan hon yn ddi-dor neu’n ddiwall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu fod y wefan hon neu’r gweinyddwr sydd yn ei rhoi ar gael yn lân oddi wrth firysau neu nam. Y mae defnyddio’r wefan hon a’r wybodaeth yn cael ei wneud yn llwyr ar liwt y defnyddiwr ei hun. Nid o dan unrhyw amgylchiad y bydd Plant yng Nghymru yn atebol am unrhyw ddifrod pa beth bynnag sy’n deillio o neu sy’n gysylltiedig â’r wefan hon. Yr unig ffordd yn gyfan gwbl sydd gennych o gywiro anfodlonrwydd gyda’r wefan hon yw drwy ymatal rhag defnyddio’r wefan a’r wybodaeth.
6) Cywirdeb y cynnwys
Tra bod pob ymdrech resymol wedi’i gwneud i sicrhau cywirdeb y cynnwys, ni ellir cymeryd cyfrifoldeb am unrhyw wall neu anwaith.
7) Sylwadau neu gwynion
Fe gaiff y Telerau a’r Amodau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â deddfau Cymru a Lloegr. Fe fydd unrhyw anghydfod sy’n codi yma yn gyfan gwbl yn amodol ar awdurdodaeth y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Fe ddylid anfon unrhyw sylwadau neu gwestiynau parthed y wefan hon at info@childreninwales.org.uk.