Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch "Cychwyn Iach Cymru" ddydd Llun 6 Chwefror 2012. Mae’r ymgyrch yn galw ar rieni a gofalwyr eraill i addo i gadw eu ceir yn rhydd rhag mwg oherwydd y peryglon i iechyd plant sy’n cael eu datguddio i fwg ail law mewn man cyfyngedig. Mae llawer o dystiolaeth i ddangos bod y datguddiad i gemegau gwenwynig mewn sigarennau yn uchel iawn mewn ceir a bod hyn yn arwain at risgiau uwch o amrediad o anhwylderau sy’n cynnwys syndrôm marwolaeth sydyn babanod ac asthma.
Mae’r ymgyrch newydd wedi cael ei chroesawu gan yr elusen wrth-ysmygu Ash Cymru a chan Plant yng Nghymru.
Esboniodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru: "Mae effaith andwyol ar iechyd plant o fwg ail law mewn ceir wedi cael ei dogfennu’n dda ac mae Plant yng Nghymru wrth eu bodd bod Llywodraeth Cymru bellach yn lansio ymgyrch gyhoeddusrwydd i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon ymhlith y cyhoedd. Wrth edrych ymlaen at Lywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth bellach i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol, bydd yr ymgyrch amserol hon yn helpu i atgyfnerthu’r neges iechyd y cyhoedd ac ar yr un pryd, yn amlygu’r ffaith bod plant, babanod a phobl ifanc yn hawdd eu niweidio gan fwg ail law."
Yng Ngorffennaf 2011, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Llywodraeth Cymru yn ystyried mynd ar drywydd gwahardd ysmygu mewn ceir sy’n cludo plant os na fydd datguddiad plant i fwg ail law mewn ceir yn dechrau lleihau o fewn y tair blynedd nesaf.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn natganiad Llywodraeth Cymru i’r wasg ac ar wefan Ash Cymru.