Mae Gwasanaethau Cwnsela mewn Ysgolion yn helpu miloedd o blant a phobl ifanc fod yn fwy hyderus yn yr ysgol a gwella’u presenoldeb, dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg.
Mae’r ffigurau diweddaraf a gasglwyd yn ystod tymor yr haf a hydref 2009 a thymor y gwanwyn 2010 yn dangos bod dros 4,100 o blant a phobl ifanc wedi cwblhau cwrs o gwnsela, a’r cynllun hwn sy’n gyfrifol am hynny.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.