Mae Barnardo’s wedi cyhoeddi data sy’n dangos oediadau maith yn llysoedd teulu Cymru a Lloegr.
Mae plant yn aros ar gyfartaledd am fwy na blwyddyn (57 wythnos) mewn cartrefi teuluol ansefydlog neu mewn lleoliadau maeth mewn argyfwng cyn y bydd llys sirol yn penderfynu a fyddant yn cael eu rhoi dan ofal. Yn y llys achosion teuluol (ynadon), yr amser cyfartalog yw 45 wythnos - mwy na 10 mis.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Barnardo’s.