Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, mewn cydweithrediad â CLIC, yn cynnal cystadleuaeth i blant a phobl ifanc adrodd eu newyddion eu hunain.
Fe fydd cynigion ar gyfer y gystadleuaeth yn cael eu hystyried ar gyfer eu cyhoeddi mewn papur newyddion arbennig fydd yn cael ei gyhoeddi i nodi unfed penblwydd ar hugain Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae’r gystadleuaeth yn rhan o fenter ehangach a gynlluniwyd i hyrwyddo Gwneud Pethau’n Iawn, y Cynllun Gweithredu 5 mlynedd ar gyfer gwneud hawliau plant yn realiti.
Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw’r 8fed o Hydref, ac fe fydd yr enillydd cyffredinol yn derbyn iPad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Gwneud Pethau’n Iawn.