Mae Llais Defnyddwyr Cymru wedi lansio ymgyrch i gael yr Asiantaeth Safonau Bwyd i roi canllawiau i fusnesau bwyd i egluro’n bendant na ddylai’r un offer fyth gael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi bwydydd amrwd a bwydydd sy’n barod i’w bwyta.
Yn 2005, fe fu farw’r plentyn 5 mlwydd oed Mason Jones o Dde Cymru o’r haint E.coli O157 oherwydd bod offer wedi’i ddefnyddio ar gyfer bwydydd amrwd a bwydydd wedi’u coginio, ac nid oedd wedi’i lanhau’n iawn.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â chanllawiau i’w cyhoeddi i fusnesau bwyd. Mae Llais Defnyddwyr Cymru yn galw arnynt i gyhoeddi’r canllawiau fel mater brys a’u hategu gyda rhybuddion eglur i fusnesau ynglŷn â’r cosbau am beidio â chydymffurfio.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llais Defnyddwyr Cymru.