Yn ei wyth wythnos gyntaf, cysylltodd dros 1,200 o blant a phobl ifanc â ‘meic’ - y llinell gymorth sy’n cynnig cyngor ac eiriolaeth ar draws Cymru gyfan.
Roedd y rhan fwyaf o’r galwadau a gafwyd yn ystod yr wythnosau cyntaf yn ymdrin â phryderon am iechyd meddwl, straen oherwydd arholiadau, diweithdra, a phryderon am rywle i fyw. Yn ddiweddar, mae cynghorwyr meic wedi cael nifer sylweddol o alwadau ynghylch rhywioldeb, problemau o fewn perthynas a bwlio yn yr ysgol.
Mae croeso i blant a phobl ifanc o dan 25 oed gysylltu â meic am ddim trwy ffonio 080 8802 3456, tecstio 84001 neu ddefnyddio neges wib trwy'r wefan meic.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.