Mae ffigurau gan y Swyddfa Dramor am fis Ebrill 2009-mis Mawrth 2010 yn dangos cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu cipio gan riant, gyda 39% o gynnydd mewn achosion o gipio i wledydd nad ydynt wedi llofnodi Cytundeb yr Hâg 1980 ar yr Agweddau Sifil o Gipio Plant yn Rhyngwladol.
Fe ddangosodd ymchwil gan y Swyddfa Dramor nad oedd traean o bobl yn gwybod y gellir ei ystyried fel cipio yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, os ydych yn mynd â’ch plentyn dramor heb ganiatâd y rhiant arall.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor.