Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi bod cynllun yn cael ei gyflwyno fesul cam sy’n caniatáu i rieni ofyn i’r heddlu a yw pobl sydd â mynediad i’w teulu yn droseddwyr rhyw.
Fe fydd y cynllun, a wnaeth amddiffyn mwy na 60 o blant rhag cael eu cam-drin yn ystod ei gyfnod treialu, yn cael ei gyflwyno fesul cam yn genedlaethol erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf.
O dan y cynllun, fe all rhiant, gofalwr, gwarcheidwad neu berson arall sydd â buddiant, ofyn i’r heddlu wirio a oes gan rywun sydd â hawl i gael mynediad i’w plant gofnod o gyflawni troseddau rhywiol yn erbyn plant.
Os canfyddir fod ganddynt gollfarnau am droseddau rhywiol yn erbyn plant, ac maent yn berygl o achosi niwed difrifol i’r plentyn neu’r plant dan sylw, yna fe ellir datgelu’r wybodaeth hon.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.