Mae Huw Lewis y Dirprwy Weinidog Plant wedi cyhoeddi "Ardaloedd Arloesi Teuluoedd yn Gyntaf" cyntaf Cymru.
Bydd yr ardaloedd Arloesi cyntaf yn cael eu harwain gan Wrecsam, fydd yn cydweithio â Sir y Fflint a Sir Ddinbych, a Rhondda Cynon Taf yn cydweithio â Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.
Nod yr Arloeswyr yw arwain y ffordd i wella’r broses o ddarparu gwasanaethau i deuluoedd ledled Cymru, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw mewn tlodi, fel a nodwyd yn Strategaeth Tlodi Plant ddrafft Llywodraeth y Cynulliad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.