Mae yna DVD newydd sy’n darparu canllawiau ynglŷn ag arfer gorau o ran diwallu anghenion disgyblion o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig wedi’i anfon at bob ysgol yng Nghymru.
Mae’r DVD ‘Un Gymru, Sawl Llais’, a ffilmiwyd mewn amryw o ysgolion ledled Cymru, yn dangos dosbarthiadau wrth eu gwaith; cyfarfodydd gyda disgyblion newydd a’u rhieni; athrawon yn cynllunio gwersi; a chyfweliadau gyda staff a disgyblion.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.