Mae Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi newidiadau i’r fenter nofio am ddim.
Bydd awdurdodau lleol bellach yn cynnig sesiynau nofio neu weithgareddau eraill mewn canolfannau hamdden am ddim i blant 16 oed ac yn iau ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Mae’r cytundeb newydd gydag awdurdodau lleol hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar gyflwyno sesiynau strwythuredig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.