Mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi cyhoeddi y bydd y cynllun datgelu pwy yw pobl sydd wedi'u cael yn euog o gam-drin plant yn rhywiol i’w roi ar waith fesul cam yn genedlaethol.
O dan delerau’r cynllun, fe all rhiant, gofalwr neu warcheidwad neu rywun arall â buddiant ofyn am gael gwirio unigolyn sydd â hawl i gael at eu plentyn neu’u plant er mwyn gweld a oes ganddynt gofnod o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plant.
Fe fydd y cynllun, a dreialwyd mewn pedair o ardaloedd yr heddlu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn cael ei roi ar waith fesul cam mewn 18 yn rhagor o ardaloedd yr heddluoedd o fis Awst ac fe fydd yn cyrraedd pob un o’r heddluoedd erbyn diwedd mis Mawrth 2011.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.