Mae yna adolygiad pellgyrhaeddol o’r system cyfiawnder teulu wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, y Weinyddiaeth Cyfiawnder, a’r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Fe fydd y Panel Adolygu, sy’n cynnwys cynrychiolwyr annibynnol a chynrychiolwyr y Llywodraeth o Gymru a Lloegr, yn edrych ar y dulliau gorau i osgoi gwrandawiadau llys gwrthdrawol, ac yn annog y defnydd o gyflafareddu i gyflawni trefniannau tecach a llai chwerw sy’n gosod anghenion a buddiannau plant wrth graidd y gyfundrefn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru