Fe wnaeth menter GwirVol ar gyfer gwirfoddolwyr ifainc yng Nghymru lansio’i gwefan sydd wedi’i hailwampio, www.gwirvol.org
Mae’r wefan ar ei newydd wedd wedi’i hanelu at wirfoddolwyr 16-25 mlwydd oed a’r grwpiau sy’n eu cynnwys hwy – a’r sawl sy’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol.
Nod GwirVol yw cynyddu nifer ac amrywiaeth y bobl ifanc sy’n gwirfoddoli yng Nghymru, a chynyddu nifer a hygyrchedd y cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Ewch i www.gwirvol.org am ragor o wybodaeth.