Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, Jack Straw, wedi darparu manylion y Gwasanaeth Cenedlaethol i Ddioddefwyr gwerth £8 miliwn sydd i’w roi ar waith fesul cam ledled Cymru a Lloegr o’r 1af o Ebrill. Mae’r gwasanaeth wedi’i fwriadu i warantu bod pob dioddefwr trosedd yn cael mwy o gefnogaeth unswydd bwrpasol. Mae cyfnod cyntaf y gwasanaeth yn dechrau ym mis Mawrth, ac fe fydd yn cynorthwyo teuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd llofruddiaeth neu ddynladdiad, gan ddarparu cefnogaeth, gofal a sylw dwys, sydd wedi’u haddasu i’w hanghenion unigol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref.