Fe gyhoeddwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) ar y 25ain o Ionawr, 2010. Mae'n gwneud darpariaethau yn ymwneud â’r wybodaeth a ddarperir i ofalwyr, ac mae’n sicrhau yr ymgynghorir â gofalwyr ynglŷn â’r ddarpariaeth o wasanaethau i’r sawl y maent yn gofalu amdanynt. Mae darpariaethau yn y Mesur yn cynnwys:
Mae’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn egluro: "Er bod y Mesur arfaethedig yn ymdrin â gofalwyr ifanc, nid ydyw’n rhoi sylw i’r mater o ofalwyr ifainc yn ysgwyddo baich amhriodol o ofal. Mae hyn yn cadarnhau’r farn a dderbyniwyd oddi wrth Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid y Mesur Gofalwyr bod gofalwyr ifainc yn blant yn gyntaf, ac y byddai’u hanghenion neilltuol yn cael sylw mwy priodol drwy Fesur Plant a Theuluoedd Llywodraeth y Cynulliad a’i bolisïau i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant, a thrwy’r Strategaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc."
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn natganiad y Cynulliad i’r wasg
Fe ellir cael golwg ar gynnydd y Mesur ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru