Mae’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, wedi cyhoeddi cynllun gweithredu sydd â’r nod o wella’r cynllun bathodyn glas ar gyfer parcio i yrwyr anabl.
Mae newidiadau yn cynnwys ymestyn cymhwyster y Cynllun i blant o dan 3 blwydd oed sydd â chyflyrau meddygol penodol, ac i grwpiau newydd o bobl anabl a phobl gyda chyflyrau dros dro.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.