Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhoeddi blwyddyn ryngwladol ieuenctid, gan ddechrau ar y 12fed o Awst, 2010.
Mae’r flwyddyn, sydd â’r thema ‘Deialog a Chyd-ddealltwriaeth,’ yn anelu at annog deialog a dealltwriaeth ar draws y cenedlaethau, a hyrwyddo’r delfrydau o heddwch, parch tuag at ryddid a hawliau dynol, a chydgefnogaeth.
Fe alwodd y Cynulliad Cyffredinol ar lywodraethau, cymdeithas sifil, unigolion a chymunedau yn fyd-eang i gefnogi gweithgareddau ar lefelau lleol a rhyngwladol i nodi’r digwyddiad.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cenhedloedd Unedig.