Mae Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wedi cyhoeddi y bydd plant yng Nghymru yn derbyn premiwm Cymreig ar ben taliad llywodraeth y DU i'w cyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant.
Bydd Cronfa Ymddiriedolaeth Plant Cymru yn golygu y bydd plant a aned rhwng 1 Medi 2002 a 31 Awst 2004, ac sydd eisoes yn berchen ar gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, yn cael £50 yn rhagor wedi ei dalu i'r cyfrif hwnnw. Bydd plant o deuluoedd sydd ar incwm isel yn gymwys i dderbyn £100. Bydd dros 64,000 o blant yng Nghymru yn derbyn ffurflenni hawlio yn y flwyddyn ariannol hon. Bydd 52,000 ohonynt yn gallu hawlio £50, a'r 12,000 sy'n weddill yn gymwys i hawlio £100.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.