Fe wnaed Araith y Frenhines, sy’n amlinellu’r Mesurau ar gyfer sesiwn newydd y Senedd, ar y 18fed o Dachwedd 2009.
Mae Mesurau sy’n neilltuol o berthnasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn cynnwys:
Mesur Tlodi Plant: Fe fydd y Mesur hwn, sydd wedi’i ddwyn drosodd o’r sesiwn olaf, yn ymgorffori mewn cyfraith ymrwymiad y Llywodraeth i ddileu tlodi ymysg plant erbyn 2020.
Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd: Fe fydd y Mesur hwn yn darparu pwerau fframweithiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru parthed rheoleiddio addysg yn y cartref. Mae yna ddwy ddarpariaeth ddrych arall ar gyfer Cymru yn gysylltiedig â rhwymedigaeth ar ysgolion i ddarparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru, ac, ar wahân, rhannu gwybodaeth ar gyfer dibenion diogelu plant.
Mesur Troseddau a Diogelwch: Fe fydd y Mesur yn cynyddu’r diogelwch i gymunedau rhag ystod o fygythiadau a chamfanteisio ariannol, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n cyflwyno asesu gorfodol o anghenion rhianta pan fydd plant 10 i 15 mlwydd oed yn cael eu hystyried am Orchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac mae’n rhoi’r grym i’r heddlu i wahardd pobl a ddrwgdybir o gyflawni trais teuluol o’u cartrefi am gyfnod, hyd yn oed pan na chânt eu cyhuddo.
Mesur Economi Digidol: Mae’r mesur hwn yn gwneud gosod graddfeydd oed yn orfodol ar holl gemau fideo a gynlluniwyd ar gyfer plant 12 oed a hŷn.
Mesur Ynni: Mae’r Mesur hwn yn cryfhau pwerau rheolyddion i sicrhau bod tariffau cymdeithasol ar gyfer cyflenwyr ynni’n cael eu gosod i gynorthwyo’r sawl sy’n agored i dlodi tanwydd.
Mesur Cydraddoldeb: Fe fydd y Mesur hwn, sydd wedi’i ddwyn drosodd o’r sesiwn olaf, yn darparu’r pŵer i Weinidogion Cymru roi dyletswyddau cydraddoldebau penodol ychwanegol ar gyrff cyhoeddus sy’n gweithredu swyddogaethau datganoledig a swyddogaethau datganoledig cyrff trawsffiniol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Senedd.