Y mae’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt, wedi cyhoeddi wyth penodiad i’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol newydd.
Fe fydd y Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol yn cymryd cyfrifoldeb am gadw golwg, cynghori a rhoi adroddiad ar drefniadau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Fe fydd y penodiadau yn weithredol am dair blynedd tan fis Mehefin 2012.
Y mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau anweithredol, yn cynnwys plant a phobl ifanc, sydd â’r cyfle i wneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar ystod o faterion yn ymwneud ag eiriolaeth. Y mae Cadeirydd y Bwrdd eto i’w recriwtio.
Y mae manylion y penodiadau ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.