Y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cyfundrefn newydd i gategoreiddio gemau fideo, fydd yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon gwerthu gêm fideo wedi’i graddio’n 12 neu drosodd i berson o dan oed.
Y mae’r llywodraeth wedi penderfynu mabwysiadu system PEGI (Gwybodaeth am Gemau Pan-Ewropeaidd), sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd yn y rhan fwyaf o Ewrop, ar gyfer pob gêm. Fe fydd yn disodli’r system croesryw cyfredol sydd â dau set gwahanol o symbolau, y gall un o’r ddau ymddangos ar gemau fideo, ac y mae’n ddigon addasadwy i weithio yn y farchnad gemau ar-lein, sy’n ehangu’n gyflym.
Fe fydd yna hefyd swyddogaeth newydd ar gyfer y Cyngor Safonau Fideo, sefydliad sy’n annibynnol o’r diwydiant gemau, ac fe fydd yn cymryd rôl statudol, gyda mandad i weithredu’r system gategoreiddio PEGI ar gyfer pob gêm fideo yn y Deyrnas Unedig.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.