Mae Andrew Davies, y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyhoeddi manylion cronfa fuddsoddi gwerth £60 million i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Bydd arian o’r gronfa yn cael ei roi i gyrff gwasanaethau cyhoeddus ar ffurf buddsoddiad gan Lywodraeth y Cynulliad tuag at gostau refeniw prosiectau newid a fydd yn gwella effeithlonrwydd mewn modd mesuradwy.
Mae’r Gweinodog yn gwahodd sefydliadau yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG, sefydliadau addysg ac ati i gyflwyno prosiectau.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.