Y mae’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, John Griffiths, wedi cyhoeddi bod yna £8.93 miliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer Sefydliadau Addysg Bellach a dosbarthiadau blwyddyn chwech.
Y mae’r cyhoeddiad yn dilyn wythnosau o brotestiadau gan staff colegau dros setliad ariannol eleni. Effaith y dyraniad ychwanegol hwn yw y bydd, bron ym mhob achos, darpariaeth Sefydliadau Addysg Bellach a dosbarthiadau blwyddyn chwech awdurdodau lleol yn cael ei chyllido ar neu’n uwch na’r un lefel ar gyfer 2009/10, fel ag yr oeddynt ar gyfer 2008/09. Yn wreiddiol, yr oedd cyfanswm y dyraniad ar gyfer colegau yn 2009-10 wedi’i osod ar £283 miliwn – £3 miliwn yn llai na ‘llynedd.
Fe fydd y cymorth ychwanegol yn darparu cyllid ar gyfer o leiaf 2,500 yn rhagor o leoedd ar gyfer pobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau Addysg Bellach a dosbarthiadau blwyddyn chwech.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.