Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi fod grŵp yn cael ei sefydlu i asesu effaith polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar addysg plant 8-14 oed.
Diben cyffredinol yr adolygiad yw cynnal asesiad eang o’r mentrau y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ymgymryd â nhw ar hyn o bryd, neu y mae wrthi’n eu cyflwyno, ac sydd â’r nod o wella dysgu a lles unigolion rhwng 8 a 14 oed yng Nghymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.