Fe all darpar famau yng Nghymru yn awr hawlio grant di-dreth o £190.
Y mae’r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd newydd yn daliad cyffredinol, unwaith yn unig sydd ar gael i ddarpar famau yn y Deyrnas Unedig o’r bumed wythnos ar hugain o feichiogrwydd, ac fe fydd yn daladwy o fis Ebrill 2009. Nid yw taliad y grant yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.
Y bwriad wrth wraidd y grant yw cynorthwyo mamau beichiog i aros yn heini ac iach yn y cyfnod cyn yr enedigaeth, a chynorthwyo i dalu rhai o’r costau a geir.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan DirectGov.