Y mae yna newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud i’r gyfundrefn Cynhaliaeth Plant ym Mhrydain.
Y mae rhieni sydd â gofal o ddydd i ddydd am blant yn awr yn rhydd i ddewis y trefniadau cynhaliaeth plant sydd yn fwyaf addas i’w hamgylchiadau’u hunain.
Yn flaenorol, yr oedd yna reidrwydd ar gyplau oedd yn gwahanu ac yn hawlio budd-daliadau – sy’n 70% o’r bobl sy’n hawlio cynhaliaeth plant – i ddefnyddio’r gwasanaeth statudol a ddarperir gan yr Asiantaeth Cynnal Plant.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Comisiwn Cynhaliaeth Plant a Gorfodaeth.