Ar 16 Mawrth 2011 derbyniodd Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ac yn gwneud nifer o ddarpariaethau eraill mewn perthynas â hawliau plant yng Nghymru.
1.00 Cefndir
Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ei gadarnhau gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 1989 a chan y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 1991. Cafodd ei ddatblygu i sicrhau bod hawliau cyffredinol plant yn cael eu parchu ledled y byd. Mae llywodraethau yn adrodd sut maent yn gweithredu UNCRC i Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn bob pum mlynedd. Cyhoeddwyd adroddiad diweddaraf Llywodraeth y DU yn 2007. Yn dilyn adroddiadau llywodraethau, mae Pwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn yn cyhoeddi ei Sylwadau Casgliadol am yr adroddiad.
Mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol i ddarparu sylfaen egwyddor ar gyfer ymwneud â phlant mewn trafodaeth lawn ym mis Ionawr 2004. Cyhoeddwyd y bwriad i ystyried cyflwyno deddfwriaeth sy’n ymgorffori UNCRC yng nghyfraith Cymru gan Brif Weinidog Cymru ar y pryd, Rhodri Morgan, yng Ngorffennaf 2009, a chafodd y Mesur hwn ei ddatblygu o ganlyniad i hynny.
2.00 Darpariaethau yn y Mesur
Dyletswydd i roi sylw i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn
Mae’r Mesur yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru (gan gynnwys y Prif Weinidog) i roi sylw i UNCRC. Rhwng Mai 2012 ac Ebrill 2014 bydd y ddyletswydd hon yn gymwys wrth iddynt wneud penderfyniadau am bolisi newydd neu am newid polisïau presennol. Ond o ddechau Mai 2014 ymlaen bydd yn gymwys wrth iddynt ymarfer unrhyw swyddogaethau sydd ganddynt.
Y Cynllun PlantBydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gynhyrchu Cynllun Plant sy’n pennu’r trefniadau maent wedi eu gwneud neu y byddant yn eu gwneud er mwyn cyflawni’r ddyletswydd i roi sylw i UNCRC. Bydd y cynllun hwn o bosibl yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau am ba mor dda mae’r cynllun yn gweithredu. Pan fydd Pwyllgor y CU yn cyhoeddi ei Sylwadau Casgliadol, bydd gan Weinidogion Cymru chwe mis i ystyried a oes angen diwygio neu ailysgrifennu’r cynllun.
Wrth baratoi’r Cynllun, bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i adroddiadau ac argymhellion a wneir gan Bwyllgor y CU ar Hawliau’r Plentyn. Bydd yn rhaid iddynt gyhoeddi fersiwn drafft o’r cynllun ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc, Comisiynydd Plant Cymru a chyrff priodol eraill. Hefyd bydd yn rhaid i’r cynllun gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Adroddiadau
Bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau am sut maent wedi cydymffurfio â’r ddyletswydd i roi sylw i UNCRC. Bydd yn rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf erbyn 31 Ionawr 2013 a chyhoeddi adroddiadau dilynol bob pum mlynedd (er y gallai amlder gwneud hyn gael ei newid drwy’r Cynllun Plant).
Hyrwyddo Gwybodaeth am Gonfensiwn y CU
Mae’r Mesur hefyd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau priodol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o UNCRC ymhlith y cyhoedd, gan gynnwys plant.
Pŵer i Ddiwygio DeddfwriaethMae’r Mesur yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud gorchmynion a fydd yn diwygio deddfwriaeth er mwyn gwella hawliau plant. Gallai hyn ddigwydd petai un o’r adroddiadau y sonnir amdanynt uchod yn dod i’r casgliad y byddai gan hawliau plant fwy o effaith drwy ddiwygio’r ddeddfwriaeth.
Pobl Ifanc
Mae UNCRC yn berthnasol i blant o dan 18 oed, ond mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried a ddylai unrhyw rai o’i ddarpariaethau gael eu cymhwyso hefyd i bobl ifanc yn yr ystod oedran 18 i 24. Bydd yn rhaid i’r Cynllun Plant gynnwys datganiad am gynigion y Gweinidog i ymgynghori ar hyn a bydd yn rhaid i’r Gweinidogion gyhoeddi adroddiad am eu casgliadau. Yna byddant mewn sefyllfa i wneud gorchmynion sy’n galluogi cymhwyso darpariaethau’r Mesur i bobl ifanc. Cyn gwneud gorchmynion o’r fath, byddai’n rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ac ymgynghori ar orchymyn drafft.