Ar 7 Ebrill 2011, derbyniodd Mesur Diogelwch Tanau Domestig (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol darparu systemau awtomatig atal tân mewn eiddo preswyl newydd yng Nghymru, gan gynnwys anheddau, fflatiau, cartrefi gofal, ysgolion preswyl a neuaddau preswyl myfyrwyr.
Dim ond pan fydd preswylfan newydd wedi ei gwblhau a’i anheddu y bydd gofynion y Mesur yn berthnasol, ac nid yw’n ei gwneud yn ofynnol rhoi gosodiadau newydd mewn adeiladau sy’n bodoli eisoes.
Edrychwch ar destun terfynol y mesur ar wefan Deddfwriaeth Cymru ar-lein.Edrychwch ar Nodiadau Esboniadol y Mesur fel y’u diwygiwyd.