Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi ei strategaeth amgueddfeydd genedlaethol gyntaf ar gyfer Cymru.
Mae’r strategaeth pum mlynedd yn gofyn i amgueddfeydd edrych ar ffyrdd newydd o annog mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan, cyfrannu at dwristiaeth ddiwylliannol, helpu i ddatblygu’r iaith Gymraeg, rhannu arddangosfeydd a denu mwy o bobl ifanc a phobl o leiafrifoedd ethnig.
Mae’r strategaeth ar gael i lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.