Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi’i Strategaeth ar addysg drwy gyfrwng y Gymraeg a Rhaglen Weithredu gysylltiedig.
Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar y ffordd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu, yn cynnwys ymateb i alw rhieni am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae’n annog awdurdodau lleol i weithio’n agos mewn partneriaeth i wella cynllunio a darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Strategaeth hefyd yn cynnwys cynlluniau i gynyddu cyfleoedd addysg ôl-14 drwy’r Gymraeg a dwyieithog, yn enwedig yn y sector Addysg Bellach ac mewn Dysgu Seiliedig ar Waith, ac mae hefyd yn edrych ar gynlluniau i wella hyfforddiant i ymarferwyr ar gyfer addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog.
Mae’r Strategaeth ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.