Y mae adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y gyfradd feichiogi yng Nghymru a Lloegr wedi codi rhwng 2005 a 2006 i bob grŵp o fenywod 19 mlwydd oed a throsodd.
Y mae’r gyfradd feichiogi i ferched 40 oed a throsodd wedi cyrraedd y ffigwr uchaf erioed. Y gyfradd i ferched 40 oed a throsodd a gynyddodd yn gyflymaf, o fwy na chwech y cant o 11.5 am bob 1,000 o ferched 40-44 oed yn 2005, i 12.2 yn 2006. Yn ystod yr un cyfnod, fe wnaeth y gyfradd feichiogi dan 18 oed ostwng o 41.4 i 40.7 o feichiogiadau am bob 1,000 o enethod 15-17 mlwydd oed.
Am ragor o wybodaeth, a fyddech cystal â gweld y datganiad newyddion gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol