Mae Leighton Andrews, y Gweinidog dros Addysg, wedi rhyddhau data ar nifer y dyddiau ysgol a gafodd eu colli y gaeaf diwethaf o ganlyniad i dywydd garw.
Adran ystadegau Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi casglu’r data ynghyd i roi darlun mwy cyflawn o nifer yr ysgolion a oedd ar gau ym mhob awdurdod lleol o ganlyniad i eira a rhew ym mis Rhagfyr a mis Ionawr 2009/10.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.