Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi ystadegau parthed hysbysu am anomaleddau cynhenid ar gyfer Cymru a Lloegr yn 2008.
Fe sefydlwyd System Anomaleddau Cynhenid Genedlaethol (NCAS) yn 1964 i gadw golwg ar ddigwyddiadau o anomaleddau cynhenid yng Nghymru a Lloegr. Mae anomaledd cynhenid yn annormaledd strwythurol neu swyddogaethol yn y corff dynol sy’n datblygu cyn genedigaeth. Mae rhoi gwybod i’r system am enedigaethau byw a marw-enedigaethau yr effeithiwyd arnynt yn wirfoddol.
‘Roedd yna 4,254 o blant a anwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2008 yr hysbyswyd y System Anomaleddau Cynhenid Genedlaethol amdanynt, fel plant oedd ag un neu fwy o anomaleddau cynhenid.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Ystadegau Gwladol Ar-lein.