Yr Ystadegau Gwladol diweddaraf am ‘Pobl a gafodd eu lladd neu’u hanafu ar y ffyrdd yng Nghymru, a gofnodwyd gan yr Heddlu: Amcangyfrifon Dros Dro Chwarterol, 3ydd Chwarter 2009’, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r datganiad yn dangos bod nifer y plant a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol ar y ffyrdd rhwng mis Hydref 2008 a mis Medi 2009, sef 143 o blant, yn 28 y cant yn uwch nag am y cyfnod blaenorol o ddeuddeng mis, ac yn 51 y cant yn is na’r cyfartaledd am 1994-98.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.