Fe gafodd ystadegau yn cymharu amrywiaeth o ddangosyddion yn ymwneud ag ysgolion a chyrhaeddiad ledled etholaethau’r Cynulliad eu cyhoeddi ar y 27ain o Ionawr, 2010. Mae’r ffigurau’n cwmpasu blwyddyn academaidd 2008/09, ac yn ymdrin â materion, megis niferoedd cyffredinol disgyblion, hunaniaeth genedlaethol disgyblion, perfformiad academaidd ac absenoliaeth.
Fe ellir lawrlwytho’r ystadegau oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.