Fe gafodd ystadegau sy’n amlinellu absenoliaeth o ysgolion cynradd yng Nghymru eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr 21ain o Ionawr, 2010. Maent yn dangos bod cyfanswm o 6.8% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u colli gan ddisgyblion yng Nghymru, naill ai drwy absenoliaeth gyda chaniatâd neu heb ganiatâd. Mae’r ffigwr hwn yn uwch na’r ffigwr cyfwerth ar gyfer Lloegr ond mae’r bwlch yn parhau i gau.
Fe ellir lawrlwytho’r ystadegau oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.