Mae’r adroddiad hwn gan y Rhwydwaith Maethu yn dadlau bod y gyfundrefn gofal o dan bwysau digynsail o ganlyniad i’r cynnydd parhaus yn y ffaith bod ar blant angen cartrefi maeth, yn dilyn marwolaeth y Baban Peter a’r prinder cronig o ofalwyr maeth.
Fe wnaeth y Rhwydwaith Maethu wneud arolwg o amryw o ddarparwyr gwasanaethau maethu, a roddodd wybod ei bod hi’n mynd yn gynyddol anodd canfod y cartref iawn ar gyfer pob plentyn. Mae’r pwysau ar y gyfundrefn yn arwain at lawer o wasanaethau maethu i ofyn i’w gofalwyr maeth ofalu am blant y tu allan i’w maes arbenigedd, ac ar gyfer plant efallai nad oes ganddynt y sgiliau a’r profiad cywir.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Rhwydwaith Maethu.