Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Droseddau Ieuenctid ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi cyhoeddi adroddiad yn amlinellu cynigion pellgyrhaeddol ar gyfer diwygio’r ymateb i droseddau ieuenctid ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.
Fe wnaeth y Comisiwn gynnal astudiaeth 18 mis i ymatebion amgen i droseddau ieuenctid. Mae’r adroddiad yn annog buddsoddiad sylweddol mewn ymyrraeth gynnar a chyfiawnder adferol.
Mae’r adroddiad llawn a chrynodeb ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Comisiwn.