Mae’r Sefydliad Teulu a Rhianta wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dyfarnu graddau yn null ysgolion y Deyrnas Unedig ynglŷn â meysydd o bolisi teuluol.
Yn gyffredinol, mae’r wlad yn derbyn gradd ‘C minws’ am ei statws ystyriol o deuluoedd.
Mae’r wlad yn derbyn gradd ‘D’ am y gost o fagu plentyn, am y ddarpariaeth o ofal i’r henoed, ac am dai fforddiadwy i deuluoedd, gradd ‘C minws’ am ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant a phensiynwyr, a gradd 'C' am ddarparu absenoldeb mamolaeth a thadolaeth digonol.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Sefydliad Teulu a Rhianta.