Mae Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi’i Adroddiad Cam 1 ar Fesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru).
Mae’r Pwyllgor yn cefnogi, mewn egwyddor, y Mesur Arfaethedig.
Fodd bynnag, ’roedd aelodau’r Pwyllgor yn unfrydol yn eu pryder nad oedd y ddeddfwriaeth yn ymestyn i bobl ifanc, ac maent wedi galw ar y Gweinidog i ddiwygio’r ddeddfwriaeth i roi sylw i’r mater hwn.
Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.